Ynglŷn ag Aaron

Aaron Wynne yw ymgeisydd Plaid Cymru dros Aberconwy yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021.

 

Hanes bersonol

Aeth Aaron i'r ddwy ysgol leol yn Llanrwst, Ysgol Gynradd Bro Gwydir ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, ble hefyd astudiwyd yn y 6ed dosbarth.

 

Cefndir proffesiynol

Ar ddechrau ei yrfa, roedd Aaron yn we-ddylunydd yn gweithio yn Conwy ac yn arbennigo mewn gwe-ddylunio dwyieithog.

Wedyn, ar ôl dod yn actif mewn gwleidyddiaeth lleol, aeth i weithio yng Nghaernarfon gyda Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AC. Yn fuan wedi hynny etholwyd Aaron i Gyngor Conwy i gynrychioli ei dref cartref, Llanrwst, lle mae'n parhau i fyw.

 

Hanes gwleidyddol

Safodd Aaron yn ei etholiad cyntaf yn ystod etholiadau'r Cyngor yn 2017. Ef oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn ward Crwst, Llanrwst. Roedd Aaron yn 20 mlwydd oed pan etholwyd i'r Cyngor. Ef yw cynghorydd ieuengaf Cymru, ac ef yw cynghorydd ieuengaf erioed yng Nghonwy.

Aaron yw ymgeisydd Plaid Cymru yn Aberconwy yn etholiadau'r Senedd flwyddyn nesaf. Mae o'n gobeithio medru curo'r Tori lleol, sydd ddim ond hefo mwyafrif o 750 pleidlais.

Mae Aaron hefyd yn eistedd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru.

 

Oes gen ti gwestiwn i Aaron? Cysyllta ag Aaron drwy glicio yma.

 

 

Ymuna â'r ymgyrch!

Mae Plaid Cymru ac Aaron Wynne o fewn 750 pleidlais i guro'r Ceidwadwyr ac ennill Aberconwy. Ymuna â'r ymgyrch isod: