O Llywelyn ap Gruffydd i'r Archdderwydd presennol, i fandiau roc ddoe a heddiw, mae cynrychiolydd y dref ar Gyngor Sir Conwy, ac un a gafodd ei eni a'i fagu yn Llanrwst, yn crynhoi'r hyn y mae perthyn i gartref y Brifwyl eleni yn ei olygu iddo.
"Rhywun yn gofyn wrtha fi beth sydd ar waith yma heno..." - Cymru, Lloegr a Llanrwst (Y Cyrff).
I rai, dim ond tref ar waelod Dyffryn Conwy yw Llanrwst. Tref rhwng Betws y Coed a Llandudno. Rhywle i basio drwyddo ar siwrnai i lawr y A470. Tref fach ôl-ddiwydiannol. Ond i mi, mae Llanrwst yn llawer iawn mwy na hynny. Mae'n gartref. A bu'n gartref imi erioed. Dwi wedi cicio pêl yn erbyn garej teulu'r Cawleys (sori!), wedi bod yn ddisgybl yn ysgolion y dref, wedi dysgu dreifio yma, wedi yfed fy mheint cyntaf yma, ac wedi caru a cholli aelodau'r teulu a ffrindiau yma.
Dwn i ddim pam, ond bu tân yn fy mol erioed dros Lanrwst. Mae ysbryd y dref wedi cydio ynof. Dwi'n canfod fy hun yn aml ynghanol breuddwyd am hanes a chwedlau ein tref. Hanes sy'n tanio'r dychymyg.
Mae un digwyddiad yn dal i gydio yn nychymyg y locals hyd at heddiw, a hwnnw yw datganiad annibyniaeth y dref. Yn 1276 fe gipiodd Llywelyn ein Llyw Olaf Lanrwst oddi ar Esgobaeth Llanelwy, a datgan annibyniaeth ei phobol. 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' yw'r hen ddywediad - dywediad sy'n arwydd o'n rhyddid ni.
Mae Llanrwst yn enwog am lawer o bethau, o'n heglwys sy'n perthyn i'r 12.g., lle cedwir arch Llywelyn Fawr, i'r bont fawr ac afon Conwy. Yr afon sy'n creu penawdau ran amlaf! Ond i mi, pobol yn fwy na dim sy'n 'gwneud' tref a chymuned, pobol sydd â'u diwylliant, eu hiaith a'u ffordd o fy eu hunain.
Iaith ddywedais i? Wrth i chi ymweld â'r Brifwyl eleni, clustfeiniwch ar yr iaith hon, sef Llanrwst Welsh. Mae'r Gymraeg amherffaith hon yn sgil ynddi ei hun ac yn perthyn inni oll, o'r teulu ifanc sydd ddim ond yn cael mynediad at yr iaith trwy eu plant, i'r Prifardd Myrddin ap Dafydd, sy'n hanu o'r ardal. Croeso i Lanrwst, ynai!
Mae Llanrwst a'r fro hefyd yn enwog am feithrin bandiau ac artistiaid Cymreig cŵl fel Y Cyrff, Alun Tan Lan a Jen Jeniro. A dydi awch pobol ifanc yr ardal i ddefnyddio cerdd a chelf i'w mynegi eu hunain ddim wedi diflannu. Mae bandiau newydd, gyda'u harddulliau newydd, yn codi o hyd, yn eu plith Serol Serol a'u space pop, Tant a'u gwerin-bop, Omaloma a'u psych-pop.
Ond, fel unrhyw gymuned wledig arall, mae Llanrwst yn wynebu her. Wrth i gyflogau cyfartalog y sir ostwng, ac wrth i brisiau tai a chostau byw barhau i godi i'r entrychion, mae pobol ifanc yn cefnu ar yr ardal i chwilio am waith a dyfodol fforddiadwy. Ac, wrth gwrs, mae eu hymadawiad yn tanseilio sefyllfa'r iaith a'r diwylliant a'r ffordd o fyw.
Mae dyletswydd arnom fel cenedl i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Mae'n rhaid inni greu cenedl sy'n caniatáu i bobol ifanc fyw a bod heb orfod dianc dros y ffin. All y Gymraeg na chymuned na ddiwylliant ddim bodoli mewn gwagle. Mae'n rhaid cael pobol i gadw'r olwyn i droi. Mae'r Eisteddfod yn gyfle gwych inni ddathlu'n llwyddiannau, gan ein hatgoffa'n hunain o'r hyn sydd gennym i'w golli.
Mae Eisteddfod fever wedi cydio yn y sir, ac ryden ni i gyd yn edrych ymlaen at eich croesawu i Lanrwst ym mis Awst. Mae'r sir gyfan wedi gweithio'n galed ers sawl blwyddyn bellach er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl. Dwi'n ffyddiog y bydd hi'n Eisteddfod fythgofiadwy yma yng nghalon Conwy.
Gaiff Y Cyrff y gair olaf;
'Tyrd hefo fi lle di'r anifeiliaid byth yn metro,
A gawn ni siarad am Cymru, Lloegr a Llanrwst unwaith eto...'
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yng Nghylchgrawn Barn, mis Awst 2019.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter