Gwelodd bron i 42% o ddisgyblion Lefel A Cymru eu graddau wedi eu hisraddio.
Ar yr un pryd, mae rhagrith adain Brydeinig y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn syfrdanol. Wrth feirniadu “system raddio fethiedig” Llywodraeth y DU a’u cyhuddo o gipio dyfodol myfyrwyr i ffwrdd, mae eu cymheiriaid yn Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r un cam!
Mae pobl ifanc Cymru yn haeddu gymaint gwell gan eu llywodraeth. Dyna pam ein bod yn ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw yn galw arno i weithredu.
Rydym yn galw arno i godi graddau disgyblion a oedd yn îs nag asesiadau’r athrawon yn yr arholiadau Lefel A ac AS, gan ddefnyddio graddau asesiadau’r athrawon - a gofynnwn i chi ychwanegu’ch enw i’n llythyr.
Ychwanegwch eich enw i'r llythyr.