Dw i'n galw ar Gyngor Conwy i gefnogi busnesau lleol drwy gyflwyno parcio am ddim yn sir Conwy.
Mae sir Conwy bellach o dan glo Llywodraeth Cymru, ac mae busnesau angen cefnogaeth er mwyn goroesi'r pandemig.
Hoffwn i weld Cyngor Conwy yn dilyn arweiniad cynghorau eraill yng Nghymru, fel Gwynedd a Cheredigion, a chyflwyno parcio am ddim yn holl feysydd parcio'r Cyngor. Hoffwn i weld parcio am ddim yn cael ei chyflwyno ar hyd sir Conwy hyd nes y flwyddyn newydd o leiaf.
Credaf bydd hyn yn gymorth mawr i fusnesau sydd yn barod yn gweld hi'n anodd masnachu yn ystod y pandemig. Dyma ffordd effeithiol i'r Cyngor gefnogi ein busnesau lleol. Byddai caniatáu parcio am ddim hyd nes o leiaf y flwyddyn newydd yn caniatáu i fusnesau lleol gymryd mantais o'r sbri siopau'r Nadolig.
👉 Os wyt ti'n cytuno, arwydda'r ddeiseb yma.